Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian – Gwybodaeth i ddefnyddwyr

Telerau Defnyddio a Pholisi Preifatrwydd Data

Mae’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian yn wasanaeth sy’n cael ei gynnal gan Syrenis Ltd ( www.syrenis.com ) ar ran y Rheoleiddiwr Codi Arian, cwmni cyfyngedig preifat gyda’i swyddfeydd cofrestredig yn Eagle House 167 City Rd, London EC1V 1AWH.

Os hoffech weld cwestiynau cyffredin am y gwasanaeth hwn, edrychwch yma os gwelwch yn dda. Mae’r cwestiynau cyffredin yn darparu cyngor yn unig a gofynnir i ddefnyddwyr y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian ddarllen a derbyn y telerau hyn ("Telerau Defnyddio") a’r hysbysiad isod ynghylch sut rydym ni’n defnyddio eich data personol ar gyfer y gwasanaeth hwn ("Polisi Preifatrwydd").

Cyflwyniad

Mae’r Telerau Defnyddio yn nodi ar ba sail mae defnyddwyr ("chi") yn cytuno i ddefnydido’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian ("ni / y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian / FPS"). Mae’r Polisi Preifatrwydd cysylltiedig yn nodi’r ffyrdd y gallai’r wybodaeth bersonol a gasglwyd gan y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian gael ei defnyddio er mwyn cyflawni’r gwasanaeth yn unol â’ch cyfarwyddiadau chi.

Mae’r Polisi Preifatrwydd sy’n gysylltiedig â’r Telerau Defnyddio hyn yn ymwneud yn unig â data personol a gasglwyd gennym ni:

  1. trwy gyfrwng un ai gwasanaeth ffôn penodol y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian neu wefan y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian (a weithredir gan IPPlus (UK) Ltd, sy’n masnachu fel “Yonder”); a
  2. at ddiben lleihau cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol atoch chi a gweinyddu’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian.

Nid yw’n berthnasol i ddata personol a ddarparwyd i’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian neu’r Rheoleiddiwr Codi Arian trwy unrhyw ddull arall, yn cynnwys trwy ddulliau cysylltu uniongyrchol eraill (megis e-bost) neu trwy unrhyw wefan arall. Gellir gweld prif bolisi preifatrwydd y Rheoleiddiwr Codi Arian yma.


Telerau Defnyddio

Ymwadiad

Sylwer bod y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian yn berthnasol i elusennau (“sefydliadau codi arian”) wedi eu cofrestru yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn unig. Os hoffech gael gwybodaeth am elusennau wedi’u cofrestru yn yr Alban, edrychwch yma. Bydd rhai Sefydliadau Codi Arian wedi eu cofrestru gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian, ac eisoes wedi cofrestru i ddefnyddio’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian, ond efallai na fydd eraill

Nid oes gan y Rheoleiddiwr Codi Arian na’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian unrhyw reolaeth dros unrhyw wybodaeth bersonol a ddarparwyd gennych chi’n flaenorol, neu y gallech ei darparu, i sefydliad codi arian ac eithrio trwy gyfrwng y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian trwy’r modd y nodir uchod. Sylwer nad yw’r Polisi Preifatrwydd hwn, nac unrhyw bolisi preifatrwydd gan y Rheoleiddiwr Codi Arian, yn berthnasol i wybodaeth o’r fath.

Tra bo eich manylion chi’n cael eu darparu i’r sefydliadau codi arian a enwebir gennych chi ar y telerau a nodwyd yn benodol yn ei gwneud yn ofynnol (i) eu bod yn cael eu defnyddio at y dibenion penodol yn unig a (ii) bod yr holl data personol i’w drin yn ddiogel, nid ydym yn gyfrifol (dan y Telerau Defnyddio hyn nac fel arall) am sut y gallai sefydliadau o’r fath ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Diffiniad y gwasanaeth

Mae’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian yn wasanaeth wedi ei seilio ar wefan, y post ac e-bost sy’n caniatáu i’r cyhoedd hysbysu sefydliad codi arian penodol i beidio ag anfon cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol (yn cynnwys deunydd codi arian) atynt trwy gyflwyno eu manylion cyswllt i system gyswllt ganolog. Mae llinell ffôn ar gael i roi cymorth i’r rhai na fedrant ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth i fanteisio ar y gwasanaeth hwn.

Sut fedra i ddefnyddio’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian?

Cewch ddiweddaru’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian ar unrhyw adeg gydag enwau’r elusennau neu sefydliadau codi arian eraill nad ydych chi’n dymuno iddynt gysylltu gyda chi mwyach, gan roi eich manylion cyswllt perthnasol i ‘atal’ (h.y. cofnodi fel ‘peidiwch â chysylltu’). Cewch hysbysu am hyd at dri sefydliad codi arian ymhob cais, ond cewch wneud unrhyw nifer o geisiadau.

Unwaith y bo eich dewisiadau cysylltu a’ch manylion personol wedi’u cyflwyno, bydd yr holl sefydliadau codi arian a enwyd gennych chi (neu a ddewiswyd gennych chi trwy’r broses chwilio) yn derbyn hysbysiad prydlon gan y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian y gofyn am ddileu eich manylion cyswllt. Bydd yr hysbysiad ysgrifenedig hwn yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i weld y manylion hyn.

O’r pwynt yma gofynnir i sefydliadau codi arian ddileu eich manylion ymhen cyfnod rhesymol, ac yn unrhyw achos disgwylir iddynt weithredu cyn pen 28 diwrnod o’ch hysbysiad dechreuol i’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian.

Beth sy’n digwydd i fy nghais?

Pryd bynnag y byddwch chi’n defnyddio’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian i ofyn i sefydliad codi arian roi’r gorau i gysylltu gyda chi, gwnawn anfon neges e-bost atynt yn eu hysbysu i gofrestru a/neu fewngofnodi i wefan ddiogel y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian, lle byddant yn gweld manylion eich cais chi (neu gallant ddewis derbyn diweddariadau ynghylch ceisiadau o’r fath yn uniongyrchol).

Os ydych chi’n parhau i dderbyn cyfathrebiadau codi arian gan y sefydliad codi arian hwnnw 28 diwrnod ar ôl cyflwyno eich cais, cewch fewngofnodi i’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian gan ddefnyddio’r cyfeirnod ar gyfer y cais a gwnawn anfon ail hysbysiad ffurfiol atynt trwy e-bost neu’r post.

Os ydych chi’n parhau i dderbyn cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol gan y sefydliad codi arian a’ch bod chi’n dymuno gwneud cwyn ffurfiol, cewch gysylltu gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian gan ddefnyddio Ffurflen Gwyno'r Rheoleiddiwr Codi Arian i gyflwyno cwyn ffurfiol.

Os ydych chi wedi hysbysu’r sefydliad codi arian i beidio ag anfon deunydd marchnata atoch chi ar unrhyw adeg yn y gorffennol, nodwch hynny’n glir gan ddweud sut a phryd wrth gysylltu gyda ni.

Cael y gorau o’r gwasanaeth

Dylech fod yn ymwybodol fod cronfa ddata’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian mor gywir â’r wybodaeth a ddarperir gennych chi. Os ydych chi’n:

  1. darparu gwybodaeth bersonol anghywir neu anghyflawn, neu’n nodi’r sefydliad codi arian anghywir wrth y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian; neu
  2. os ydych chi’n hysbysu sefydliad codi arian penodol (yn groes i unrhyw hysbysiad i’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian) eich bod yn hapus i’r sefydliad hwnnw gysylltu gyda chi ar gyfer dibenion codi arian neu farchnata

yna bydd hyn yn effeithio ar ansawdd y gwasanaeth y medrwn ei ddarparu.

Sylwch, os gwelwch yn dda:

  1. os ydych chi’n defnyddio’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian mae’n ofynnol i chi gytuno i’r Rheoleiddiwr Codi Arian weithredu fel eich asiant yn gyrru hysbysiadau ‘rhoi’r gorau i brosesu’ trwy e-bost a’r post, fel y disgrifir uchod.
  2. bydd y Rheoleiddiwr Codi Arian yn medru mynd ar drywydd cwynion yn erbyn sefydliadau wedi eu cofrestru yn unig, er y gall roi dyfarniad ar gydymffurfio â’r Cod Ymarfer Codi Arian (y "Cod") ar unrhyw adeg. Bydd methu â chydymffurfio â hysbysiad ‘rhoi’r gorau i brosesu’ a wnaed gan y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian yn cael ei drin fel cwyn dan y Cod gan y Rheoleiddiwr Codi Arian.
  3. rhaid i gwynion am sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio â hysbysiadau ‘rhoi’r gorau i brosesu’ y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian gael eu cyflwyno cyn pen dwy flynedd i ddyddiad cyflwyno’r cais i’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian; a
  4. iv. gellid cael amgylchiadau lle bo sefydliadau codi arian yn parhau i gyfathrebu gyda chi am gyfnod cyfyngedig ar ôl 28 diwrnod, neu am resymau cyfreithlon. Edrychwch ar y Cwestiynau Cyffredin am ragor o wybodaeth.

Pwy sy’n gyfrifol am gynnal y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian?

Cynhelir y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian gan Syrenis Ltd (y wefan a gwasanaethau hysbysu) ac IPPlus (UK) Ltd (gwasanaeth ffôn) ar ran y Rheoleiddiwr Codi Arian. Mae Syrenis ac IPPlus (UK) Ltd yn gweithredu fel proseswyr data ar ran y Rheoleiddiwr Codi Arian ynghylch unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynir i’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian trwy’r cyfryngau hyn, ond y Rheoleiddiwr Codi Arian yw’r rheolwr data ar gyfer gwybodaeth o’r fath (sy’n golygu ein bod ni’n parhau’n gyfrifol am y data personol rydym ni’n ei gasglu a byddwn yn ei ddefnyddio yn unol â’ch cyfarwyddiadau chi). Cyfeiriwch at ein Polisi Preifatrwydd am ragor o wybodaeth.


Polisi Preifatrwydd

Defnyddio gwybodaeth bersonol

Bydd gwybodaeth bersonol a ddarperir i’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian trwy’r wefan hon neu wasanaeth ffôn y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian yn cael ei defnyddio at ddibenion atal (yn benodol, hysbysu sefydliadau i beidio â chysylltu gyda chi) a gweinyddiaeth sylfaenol y gwasanaeth (a allai gynnwys anfon neges e-bost cadarnhau neu eich hysbysu chi os yw ein Telerau Defnyddio neu’n Polisi Preifatrwydd yn newid).

Yn arferol ni fyddem yn diswyl cadw data personol o’r fath am fwy na dwy (2) flynedd. Gellid defnyddio data wedi’i gyfuno yn ddienw ar gyfer gwaith ymchwil a dadansoddi ystadegol.

Pwy sy’n medru gweld eich gwybodaeth / i bwy y datgelir yr wybodaeth?

Gallai staff y Rheoleiddiwr Codi Arian sy’n gyfrifol am y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian a’n contractwyr systemau weld yr wybodaeth bersonol a ddarperir gennych chi.

Mae’r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych chi trwy’r wefan yn cael ei storio ar weinyddyddion gan ein contractwyr, sydd wedi llofnodi cytundeb cyfreithiol gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian i ddiogelu eich data. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ynghylch prosesu data personol yn ddiogel, cyfreithlon a theg, yn cynnwys sicrhau bod mesurau technegol digonol a mesurau eraill yn bodoli i ddiogelu data personol rhag colled neu fynediad diawdurdod, ac i’w ddefnyddio yn unol â thelerau ei gytundeb gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian yn unig.

Datgelir y data a ddarperir i drydydd partïon wedi eu henwi lle rydych chi wedi nodi elusennau neu sefydliadau codi arian penodol nad ydych am iddynt gysylltu gyda chi mwyach a’ch bod wedi cofrestru hynny gyda’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian. Felly mae hyn yn unol â’ch caniatâd a’ch cyfarwyddiadau chi, a bydd y data personol hwn yn cael ei ddefnyddio at ddibenion atal cyfathrebu neu i’w gynnwys mewn meddalwedd atal yn unig. Ni fydd eich data’n cael ei ddatgelu i’r trydydd partïon hyn at unrhyw ddiben arall ac eithrio lle y gofynnwyd am hynny gennych chi neu ei bod yn ofynnol gan y gyfraith.

Mae trydydd partïon o’r fath, trwy eu telerau mynediad i’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian a/neu hysbysiadau a ddarperir o dro i dro gan y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian, wedi eu gwahardd yn benodol rhagor defnyddio’r wybodaeth bersonol hon at unrhyw ddiben ac eithrio atal cyfathrebiadau marchnata i’r manylion cyswllt hynny (a fydd yn golygu cadw cofnodion digonol o’r wybodaeth er mwyn medru gwneud hynny). Byddant yn cael eu hatgoffa hefyd ei bod yn ofynnol iddynt gydymffurfio gyda’r holl ddeddfau perthnasol o ran yr holl wybodaeth bersonol a dderbyniant.

Lle y cedwir eich manylion chi

Mae’r data rydych chi’n ei gyflwyno i ni yn cael ei storio ar weinyddyddion a reolir gan ein contractwyr, gyda’r cyfan ohonynt yn yr Adran Economaidd Ewropeaidd ar hyn o bryd. Lle bo trydydd parti yn derbyn eich data chi gennym ni (er enghraifft, sefydliad codi arian, sydd angen eich manylion at ddibenion atal rhagor o gyswllt marchnata), fe’u cyfyngir o dan delerau eu contract gyda ni rhag storio’r data hwn y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, ac eithrio lle eu bo wedi sicrhau mesurau diogelu digonol ar gyfer eich hawliau preifatrwydd data.

Defnyddio cwcis

Darn o wybodaeth yw ‘cwci’, y mae rhai gwefannau yn eu creu ar eich cyfrifiadur. Mae ein cwcis ni yn rhoi rhif ar hap i bob un o ddefnyddwyr y wefan hon. Ni ddefnyddir y cwcis a ddefnyddir yn y wefan hon i gasglu unrhyw wybodaeth bersonol. Ni fydd ein cwcis yn cael eu defnyddio i ddadansoddi eich ymweliadau i wefannau eraill nac olrhain unrhyw chwiliadau rhyngrwyd gennych chi tra ar y wefan, ac eithrio ar gyfer dadansoddi ystadegol. Defnyddir yr wybodaeth a gesglir trwy gyfrwng cwcis i dracio symudiadau ar y wefan hon ar gyfer dadansoddi ystadegol.

Gweld eich data personol

Os ydych chi’n dymuno addasu neu ddileu eich data personol, neu weld pa ddata personol a gedwir ar eich rhan gan y Rheoleiddiwr Codi Arian, cewch anfon neges e-bost i fps@fundraisingregulator.org.uk. Y dewis arall yw ysgrifennu at y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian, Eagle House 167 City Rd, London EC1V 1AW. Cyfeiriwch at bolisi preifatrwydd y Rheoleiddiwr Codi Arian yma i gael rhagor o wybodaeth.

Gwefannau trydydd parti

Nid yw ein polisi preifatrwydd yn berthnasol i wefannau trydydd parti y gall unigolion gael mynediad iddynt o wefan y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian. Rydym ni’n argymell eich bod chi’n gwneud eich hun yn gyfarwydd gyda’r polisi preifatrwydd perthnasol cyn mewnbynnu unrhyw wybodaeth bersonol i wefan trydydd parti.

Diogeledd

Rydym ni a’n contractwyr wedi gweithredu amrywiaeth o fesurau diogeledd safonol y diwydiant i atal trydydd partïon rhag gweld gwybodaeth bersonol, yn cynnwys waliau tân, rhwystro ymyrraeth ac atal rhif darparydd rhyngrwyd. Cyfeiriwch hefyd at bolisi preifatrwydd y Rheoleiddiwr Codi Arian yma.

Am ba mor hir y cedwir eich data?

Mae’r holl ddata personol a dderbynnir trwy’r dulliau a nodir uchod yn cael ei storio – un ai gan y Rheoleiddiwr Codi Arian neu ein contractwyr – gyhyd ag y bo’n angenrheidiol ar gyfer eich defnydd o’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y sefydliadau codi arian perthnasol yn cydymffurfio â’r hysbysiadau perthnasol, yn ddarostyngedig i’w cyfnod uchafswm dwy flynedd ar gyfer cofrestru cwyn.

Lle bo eich data’n cael ei gyflwyno trwy’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian, bydd y data yn cael ei storio gan unrhyw sefydliadau codi arian a enwir gennych chi at ddibenion dileu eich manylion personol, fel y nodir uchod, nes y daw adeg eich bod chi’n rhoi cyfarwyddiadau iddynt wneud fel arall (trwy gysylltu gyda’r elusen yn uniongyrchol i newid eich dewis o ran cyfathrebu).

Y polisi hwn

Gallai fod yn ofynnol i ni ddiwygio’r Polisi Preifatrwydd hwn o dro i dro wrth i’r gwasanaeth esblygu, a byddwn yn sicrhau bod y modd rydym ni’n eich hysbysu am hyn yn cael eu diweddaru yn unol â hynny. Fodd bynnag, nid ydym yn rhagweld unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r modd rydym ni’n cadw ac yn prosesu eich data dan y system Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian.

Diweddariad diwethaf: 22/06/2017


Hawlfraint © · Cedwir pob hawl · Rheoleiddiwr Codi Arian

English | Cyrmraeg