Cwestiynau Cyffredin - Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian

 

Os hoffech chi gael cymorth i lenwi’r ffurflen ar-lein, mae gwasanaeth llinell gymorth ar gael.

Ffoniwch 0300 3033 517* os gwelwch yn dda

Cewch gofrestru trwy gyfrwng y llinell gymorth hefyd, a nodi’r elusen(nau) nad ydych chi’n dymuno iddynt gysylltu gyda chi mwyach. Y ffordd hawsaf o ddod o hyd i’r elusen yw defnyddio rhif cofrestredig yr elusen, a fydd yn cael ei ddangos ar eu holl ddeunydd hyrwyddo. Os na fedrwch chi ddod o hyd i rif yr elusen, cewch chwilio gan ddefnyddio enw’r elusen hefyd.

Gofynnir i chi roi eich enw a manylion cyswllt perthnasol fel bod modd eich cyfateb gyda chofnodion yr elusen a bydd y cyfathrebu yn cael ei atal. Bydd yr holl wybodaeth bersonol sy’n cael ei mewnbynnu i wefan Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian yn cael ei chadw’n ddiogel a chyfrinachol. Byddwch yn derbyn cyfeirnod i’ch cais.

Unwaith y bo’r holl fanylion wedi’u darparu a’r cais wedi’i gyflwyno, bydd y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian yn anfon neges e-bost awtomatig at yr elusen(nau), yn rhoi 28 diwrnod iddynt ddileu eich manylion chi o’u rhestrau marchnata.

*Ni fydd galwadau’n costio mwy na galwadau i rifau daearyddol (01 a 02) a rhaid eu cynnwys mewn munudau cynhwysol a chynlluniau disgownt yn yr un modd. Yn arferol codir tâl o 10 ceiniog y funud am alwadau o linellau ffôn sefydlog; mae galwadau o ffonau symudol yn costio rhwng 3 ceiniog a 40 ceiniog y funud yn nodweddiadol. Cynhwysir galwadau o linellau ffôn sefydlog a ffonau symudol mewn pecynnau galwadau am ddim.

Bydd y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian yn cynorthwyo aelod o’r cyhoedd i atal cyfathrebu marchnata uniongyrchol maent yn ei dderbyn gan elusen benodol.

Mae marchnata uniongyrchol yn cynnwys cyfathrebu trwy gyfrwng yr isod:

  • Llythyrau gydag enw a chyfeiriad yr unigolyn arnynt
  • Negeseuon e-bost
  • Negeseuon testun
  • Galwadau ffôn

Mae’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian yn caniatáu i chi ddewis atal unrhyw fath neu’r holl farchnata uniongyrchol, felly medrwch deilwra’r modd mae elusen yn cyfathrebu gyda chi yn ôl eich dewis.

Fodd bynnag, gellid cael amgylchiadau lle’i bo’n dderbyniol neu’n angenrheidiol i elusen gysylltu gyda chi am resymau eraill, megis:

  • prosesu neu weinyddu archeb sefydlog neu archeb rhodd sy’n bodoli eisoes
  • cyflawni prynu tocyn neu bryniant adwerthu arall
  • lle bo gennych chi ffurf arall o aelodaeth neu danysgrifiad i’r elusen, megis tanysgrifiad i’w cylchgrawn

Mae modd atal yr holl alwadau ffôn a phost uniongyrchol anneisyf gan yr holl elusennau trwy gofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewis Ffôn a’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian.

Yn achos elusennau rydych chi wedi rhoi ‘caniatâd’ iddynt gysylltu gyda chi yn y gorffennol a’ch bod chi am iddynt roi’r gorau i gysylltu gyda chi yn awr, cewch un ai gysylltu gyda’r elusen yn uniongyrchol neu ddefnyddio’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian i atal y cysylltu.

Pan wnaethom ni ddylunio’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian, fe wnaethom ni drafod gyda’r cyhoedd a oedd yn debygol o ddefnyddio’r gwasanaeth, a dywedodd y rhan fwyaf ohonynt wrthym ni eu bod yn anhapus gyda chyfathrebiadau gan rai elusennau, ond eu bod yn hapus i glywed gan eraill. Hefyd fe wnaethom ni ganfod rhai o’r cyhoedd yn cael nifer fawr o geisiadau gan lawer o wahanol elusennau, ond nad ydynt eisiau dewis peidio â chael eu cysylltu gan elusennau yn gyfangwbl. Mater cyffredin a godwyd oedd bod y cyhoedd eisiau gwasanaeth a oedd yn gweithio’n wahanol i’r Gwasanaeth Dewis Ffôn a’r Gwasanaeth Dewis Post ac yn caniatáu iddynt atal elusennau yr oeddynt wedi rhoi ‘caniatâd’ iddynt yn y gorffennol, ond nad oeddynt yn dymuno iddynt gysylltu gyda nhw mwyach.

Mae’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian wedi’i ddylunio i gynnig y ffordd symlaf a mwyaf effeithiol i chi atal cyfathrebiadau gan yr elusennau nad ydych yn dymuno iddynt gysylltu gyda chi, p’un ai ydych chi wedi rhoi ‘caniatâd’ iddynt gysylltu gyda chi yn y gorffennol ai peidio.

Mae’r cyhoedd eisoes yn medru defnyddio’r Gwasanaeth Dewis Ffôn (TPS) a’r Gwasanaeth Dewis Post (MPS) i ddewis peidio â derbyn yr holl alwadau ffôn a llythyrau marchnata anneisyf gan bob math o sefydliadau, yn cynnwys elusennau.

Cewch ragor o gymorth gyda’r rhain yng nghwestiwn 15 isod.

Nid oes angen enw defnyddiwr a chyfrinair i ddefnyddio’r gwasanaeth. Gall unrhyw un gael mynediad i’r wefan ar unrhyw adeg. Bob tro rydych chi’n cyflwyno cais trwy gyfrwng y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian, gofynnir i chi fewnbynnu eich gwybodaeth bersonol. Yna gall elusennau chwilio eu cronfa ddata a dileu eich manylion o’u hymgyrchoedd marchnata uniongyrchol, yn unol â’ch cais. Bydd yr holl wybodaeth bersonol a fewnbynnir i’r wefan Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian yn cael ei chadw’n ddiogel a chyfrinachol.

Mae’r wefan wedi ei dylunio fel y medrwch chi ddewis hyd at dair elusen yn ystod unrhyw un ymweliad.

Os hoffech chi atal cyfathrebu gan fwy na thair elusen, cewch gyflwyno cais newydd trwy ddychwelyd i dudalen hafan gwefan y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian. Yn ystod pob ymweliad gofynnir i chi nodi eich gwybodaeth bersonol sylfaenol fel y gall yr elusennau a ddewiswyd chwilio eu cronfa ddata a dileu eich manylion chi.

Mae angen i’ch gwasanaeth gael gwybodaeth bersonol sylfaenol er mwyn eich cyfateb chi yn erbyn cronfeydd data’r elusen(nau) a nodwyd. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei hanfon at yr elusen a enwyd yn ddiogel, a bydd yn cael ei defnyddio ganddynt at ddibenion cyfateb eich manylion gyda’r rhai yn eu cronfa ddata. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at ein datganiad preifatrwydd data.

Os na fedrwch chi ddod o hyd i’r neges e-bost neu’r neges destun cadarnhau yn cynnwys eich cyfeirnod, cliciwch yma a mynd trwy’r camau “Rydw i wedi colli fy nghyfeirnod”. Mewnbynnwch eich manylion a gwnaiff y system anfon unrhyw gyfeirnodau’n gysylltiedig â’ch manylion chi atoch eto.

Gall gymryd hyd at 28 diwrnod i atal yr holl gyfathrebiadau gan elusen.

Os ydych chi’n parhau i dderbyn cyfathrebiadau fwy na 28 diwrnod ar ôl cyflwyno cais i’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian, cewch adael i ni wybod trwy ymweld â’r wefan eto a defnyddio eich cyfeirnod. Bydd neges ddilynol yn cael ei hanfon at yr elusen yn tynnu sylw at y ffaith eich bod chi wedi parhau i dderbyn cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol.

Os ydych chi’n parhau i dderbyn rhagor o gyfathrebiadau a/neu’n dymuno cwyno, edrychwch ar gwestiwn 11, os gwelwch yn dda.

Bydd unrhyw newidiadau/ychwanegiadau i’ch gwybodaeth bersonol yn ei gwneud yn ofynnol cyflwyno cais newydd.

  1. Am elusen sy’n parhau i gysylltu gyda mi yn dilyn cais i’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian

    Rhowch 28 diwrnod i’r elusen ddiweddaru eu cofnodion, os gwelwch yn dda. Os ydych chi wedi gwneud cais trwy gyfrwng y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian fwy na 28 diwrnod yn ôl, edrychwch ar gwestiwn 9, os gwelwch yn dda.

    Os ydych chi’n parhau i dderbyn cyfathrebiadau gan yr elusen a’ch bod chi’n dymuno cwyno, cewch gysylltu gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian gan ddefnyddio Ffurflen Gwyno’r Rheoleiddiwr Codi Arian.

  2. Am y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian

    Os ydych chi’n dymuno cwyno am wefan y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian, cysylltwch gyda’r Rheolwr Contract Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian - fps@fundraisingregulator.org.uk – a rhoi ‘CWYN AM Y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian’ yn y blwch ‘pwnc’, neu ffoniwch 0300 999 3418.

    Os ydych chi’n anhapus gyda’n hymateb ni i’ch cwyn, dylech ddilyn gweithdrefn gyffredinol y Rheoleiddiwr Codi Arian i esgyn y gŵyn i’r lefel nesaf.

    Cewch ragor o fanylion ar wefan y Rheoleiddiwr Codi Arian

  3. Am elusen yn gyffredinol

    Petaech chi’n dymuno cyflwyno cwyn am godi arian gan elusen, llenwch Ffurflen Gwyno’r Rheoleiddiwr Codi Arian os gwelwch yn dda.

Mewn rhai achosion efallai y byddwch chi’n dymuno cyflwyno cais i’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian ar ran perthynas neu rywun rydych chi’n gofalu amdano/amdani.

Gofynnir i chi:

  • Gadarnhau fod gennych chi’r awdurdod i weithredu ar ran yr unigolyn dan sylw

  • Rhoi gwybodaeth bersonol sylfaenol yr unigolyn dan sylw, yn cynnwys eu henw llawn, cyfeiriad a’r dull cyfathrebu maent yn ddymuno ei atal e.e. rhif ffôn

  • Rhoi eich enw a’ch manylion cyswllt chi, a nodi eich perthynas gyda’r unigolyn dan sylw

Unwaith y bo’r wybodaeth hon wedi’i chyflwyno bydd y cais yn cael ei brosesu ac anfonir cyfeirnod i’r cyfeiriad e-bost neu’r rhif ffôn symudol a ddarparwyd gennych chi. Anfonir llythyr yn y post at yr unigolyn rydych chi’n gweithredu ar ei ran/rhan i’w hysbysu bod eu manylion wedi’u mewnbynnu i’w system.

Efallai, ar ôl cyflwyno cais i’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian, eich bod chi’n newid eich meddwl ac yn penderfynu yr hoffech i un neu’r cyfan o’r elusennau a nodwyd gennych chi gysylltu gyda chi eto. Yn yr achos yma, bydd angen i chi gysylltu gyda phob elusen yn uniongyrchol i gadarnhau eich bod chi’n rhoi eich caniatâd iddynt anfon gohebiaeth a chysylltu gyda chi yn awr. Ar ôl rhoi’r caniatâd hwn, ni fydd y cais i’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian yn weithredol mwyach, a bydd gan yr elusen yr hawl i adfer cyfathrebu gyda chi.

Nid oes angen i chi hysbysu’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian am y penderfyniad hwn. Lle bo cyfathrebu’n cael ei adfer a bod anghydfod, bydd rhaid i’r elusen ddarparu tystiolaeth y rhoddwyd caniatâd ar ôl cyflwyno’r cais i’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian.

Bydd y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian yn atal galwadau ffôn, negeseuon e-bost, negeseuon testun a/neu ddeunydd trwy’r post gan elusen benodol/elusennau penodol, yn unol â’r cais. Ni fydd y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian yn atal cyfraniadau debyd uniongyrchol.

Ni all atal:

  • Pobl sy’n dod at eich drws i godi arian

  • Pobl sy’n codi arian yn y stryd yn gofyn i chi gefnogi eu helusen

  • Gadael bagiau elusen yn eich cartref

  • Post nad yw’n nodi eich enw arno, ond sydd wedi ei gyfeirio at ‘y preswylydd’

  • Cyfathrebiadau gan fudiadau eraill nad ydynt yn elusennau, er enghraifft, cwmnïau masnachol sydd am werthu nwyddau a gwasanaethau i chi.

Mae hyn oherwydd nad yw’r math yma o godi arian yn eich targedu chi’n benodol fel unigolyn, mae elusennau wedi dewis eich ardal (neu eich cod post) chi ar gyfer ymgyrch codi arian.

Mae modd atal peth o’r cysylltu anneisyf hyn trwy’r Gwasanaeth Dewis Ffôn (TPS) a’r Gwasanaeth Dewis Post (MPS).

Os hoffech gael rhagor o gymorth gyda’r rhain, edrychwch ar gwestiwn 15 isod, os gwelwch yn dda.

Mae’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian wedi’i ddylunio i gynorthwyo’r cyhoedd reoli cyfathrebiadau gan elusennau wedi’u seilio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. (Bydd elusennau Gogledd Iwerddon yn cael eu hychwanegu at y system yn fuan.) Gall pobl sy’n byw yn yr Alban ddefnyddio’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian i atal cyfathrebiadau gan elusennau wedi’u cofrestru yng Nghymru a Lloegr (a Gogledd Iwerddon maes o law) sy’n codi arian yn yr Alban.

Os oes gennych chi bryderon am arferion codi arian elusennau wedi’u cofrestru yn yr Alban, cysylltwch gyda’r ganolfan gwynion elusennau’r Alban, a gynhelir gan Gyngor Mudiadau Gwirfoddol yr Alban (SCVO):

Hefyd efallai y byddwch chi’n dymuno hysbysu elusennau wedi’u lleoli y tu hwnt i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn uniongyrchol am eu hymrwymiadau dan Ddeddf Diogelu Data 1998, sy’n berthnasol i fudiadau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.

Bydd y Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian yn atal cyfathrebiadau gan yr elusen(nau) a nodwyd, ond ni all atal pob ffurf o gyfathrebu gan elusennau nac atal cwmnïau masnachol. Mae’r wybodaeth a ganlyn yn rhoi crynodeb o’r gwasanaethau eraill sydd ar gael, a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

  • Gwasanaeth Dewis Ffôn (TPS) - gwasanaeth am ddim sy’n eich galluogi chi i fod ar y gofrestr swyddogol i beidio â chael galwadau marchnata a gwerthu anneisyf. Ewch i’r wefan www.tpsonline.org.uk neu ffoniwch 0345 070 0707

  • Gwasanaeth Dewis Post (MPS) - gwasanaeth am ddim i alluogi’r cyhoedd ofyn am ddileu eu henw a’u cyfeiriad oddi ar restrau a ddefnyddir gan y diwydiant. Ewch i’r wefan www.mpsonline.org.uk neu ffoniwch 0207 291 3310

  • Post drws i ddrws y Post Brenhinol - gwasanaeth am ddim lle rydych chi’n dewis peidio â chael post heb gyfeiriad arno wedi’i ddanfon gan y postmon. Edrychwch ar y ffurflen ar-lein neu ffoniwch 0345 266 0858

  • Gwasanaeth Call Protect BT - gwasanaeth am ddim i holl gwsmeriaid BT i atal galwadau niwsans. Ewch i’r gwasanaeth am ddim i holl gwsmeriaid BT i atal galwadau niwsans. Ewch i’r wefan neu ffoniwch 0800 328 1572 o’ch ffôn cartref a dilyn y cyfarwyddiadau

Y Rheoleiddiwr Codi Arian sy’n rheoli’r Gwasanaeth Dewisiadau Codi Arian. Os nad yw eich ymholiad wedi’i ateb trwy gyfrwng y cwestiynau uchod, cysylltwch gyda’r tîm gan ddenfyddio’r manylion cyswllt a ganlyn, os gwelwch yn dda:

Rheoleiddiwr Codi Arian
Eagle House 167 City Rd, London EC1V 1AW
E: FPS@fundraisingregulator.org.uk
T: 0300 999 3418

Copyright © 2021 · All Rights Reserved · Fundraising Regulator

Terms of Use & Privacy Policy Contact Us

© 2021 Fundraising Regulator is a company limited by guarantee (No.10016446) in England and Wales. Our registered office address is Eagle House 167 City Rd, London EC1V 1AW.


Fundraising Preference Service